Strategaeth Tai

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Gofynnir i drigolion am eu barn am Strategaeth Dai ddrafft Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r ddogfen yn amlinellu gweledigaeth ac uchelgeisiau’r Cyngor o ran tai ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd hyd at 2028. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos o ddydd Gwener Mai 5ed 2023 i ddydd Gwener 30fed Mehefin 2023.

Mae’r Strategaeth Dai yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer 5 mlynedd arall:

“Bydd llety digonol, addas a chynaliadwy i ddiwallu anghenion trigolion nawr ac yn y dyfodol”

Mae’n cydnabod y rôl bwysig y mae Tai yn ei chwarae ynghyd â’r dylanwad sydd ganddo ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd, a’r gymuned ehangach. Mae'r Strategaeth yn parhau i fod yn ystyriol o Strategaethau lleol eraill, yn arbennig Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion a'r Strategaeth Llesiant Gydol Oed.

Mae heriau allweddol wedi'u nodi yn y Strategaeth Dai. Bydd y darlun cenedlaethol o'r dirwasgiad economaidd, newidiadau deddfwriaethol, adferiad y Pandemig a phroblem y Ffosffadau i gyd yn chwarae eu rhan wrth effeithio ar y materion lleol sy'n effeithio ar Geredigion. Mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydym yn cynyddu'r stoc dai, wrth barhau i wella amodau byw a chefnogi ein trigolion. Felly, rydym wedi datblygu 2 brif flaenoriaeth, gyda 2 amcan yr un;

  • Cynyddu cyflenwad a gwella amodau tai
    1. Darparu tai sy'n diwallu anghenion ein cymunedau
    2. Sicrhau bod trigolion yn byw mewn llety addas a chynaliadwy o ansawdd da
  • Cefnogi trigolion yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain
    1. Sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw’n cael ei ailadrodd
    2. Rhoi cymorth amserol a phriodol i gynnal byw'n annibynnol.

Pam fod eich barn yn bwysig

Mae tai yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb; mae angen rhywle i fyw ar bawb ac mae gan bawb farn am sut olwg ddylai fod ar hynny a sut y gallant gael gafael arno fewn eu lleoliad penodol. Mae’r strategaeth hon yn manylu ar sut rydym yn bwriadu mynd i’r afael â’r heriau allweddol o ran tai sy’n effeithio ar ein cymunedau dros y 5 mlynedd nesaf. Mae’n amlinellu blaenoriaethau ac amcanion y Cyngor ar gyfer diwallu’r angen am dai a gweithio gyda thenantiaid a thrigolion i adeiladu cymunedau cynaliadwy a chydlynus.

Er y gallai rhanddeiliaid fod â barn ynghylch beth yw’r blaenoriaethau a sut i fwrw ymlaen â’r rhain, mae’n bwysig iawn bod gennym safbwyntiau cynifer o bobl â phosibl. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb wedi cael cyfle i fod yn rhan o siapio hyn gyda ni ac edrychwn ymlaen at glywed oddi wrth gynifer ohonoch â phosib.

Beth sy'n digwydd nesaf

Byddwn yn cyflwyno'r Strategaeth Dai i'w mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ym mis Hydref 2023.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes angen arnoch gopi o'r Strategaeth Dai Ddrafft ac arolwg yr ymgynghoriad mewn fformat hygyrch gwahanol, anfonwch e-bost at strategaethdaileol@ceredigion.gov.uk a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosib.

Cyhoeddi: 05 Mai 2023, 08:00 AC